Stanisław Lem
Llenor o Wlad Pwyl oedd Stanisław Lem (12 Medi 1921 – 27 Mawrth 2006) sydd yn nodedig am ei nofelau a straeon byrion gwyddonias a'i ysgrifau ar amryw bynciau gan gynnwys athroniaeth a dyfodoleg.Ganed ef yn Lwów yng Ngweriniaeth Gwlad Pwyl (bellach Lviv, Wcráin), i deulu o dras Iddewig. Meddyg oedd ei dad. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, wedi i'r Undeb Sofietaidd feddiannu Lwów, astudiodd Stanisław feddygaeth yn Athrofa Feddygol Lvov o 1940 i 1941, cyn i'r Almaen Natsïaidd gipio'r ddinas gan darfu ar ei addysg. Dychwelodd at ei gwrs wedi i'r Sofietiaid ail-gipio Lwów ym 1944. Wedi i'r ddinas gael ei gyfeddiannu'n rhan o Wcráin ym 1946, symudodd Lem i Kraków yng Gweriniaeth Pobl Pwyl i barhau â'i astudiaethau ym Mhrifysgol Jagiełło. Nid oedd am gael ei alw i'r fyddin, i dderbyn comisiwn am oes, wedi iddo ennill ei radd, ac o'r herwydd gwrthododd sefyll ei arholiadau terfynol.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, ''Człowiek z Marsa'' ("Dyn o Fawrth", 1946), mewn penodau yn y cylchgrawn wythnosol ''Nowy Świat Przygód''. Tra'n gweithio fel cynorthwywr ymchwil o 1947 i 1950, cyhoeddodd hefyd farddoniaeth, straeon byrion, a thraethodau ar bynciau gwyddonol. Gan amlaf, ni fyddai'r llywodraeth gomiwnyddol yng Ngwlad Pwyl yn sensora ffuglen wyddonol, ond gwaharddwyd un o'i weithiau cynnar, ''Szpital Przemienienia'' ("Ysbyty'r Gweddnewidiad") rhag cael ei chyhoeddi am saith mlynedd. Ym 1950, comisiynwyd Lem gan y cwmni cyhoeddi Czytelnik yn Warsaw i ysgrifennu nofel wyddonias arall, a'r honno, ''Astronauci'' ("Gofodwyr", 1951), oedd ei gyfrol gyntaf. Mae'r gweithiau hyn yn cynnwys elfennau o Realaeth Sosialaidd, yr athrawiaeth gelfyddydol swyddogol yn y bloc Dwyreiniol. Dyma'r cyfnod i Lem benderfynu bod yn awdur llawn-amser, ond yn ddiweddarach yn ei yrfa byddai'n beirniadu ei weithiau cynnar am fod yn rhy syml a chonfensiynol.
Yn sgil diwygiadau Hydref 1956 yng Ngwlad Pwyl, câi Lem fwy o ryddid wrth lenydda. Rhennir ei ffuglen yn gyffredinol yn ddwy genre: ffuglen wyddonol draddodiadol, sydd yn ymwneud â thechnoleg, teithio i'r gofod, ac estroniaid, er enghraifft ''Eden'' (1959), ''Powrót z gwiazd'' ("Dychwelyd o'r Sêr", 1961), ''Solaris'' (1961), ''Niezwyciężony'' ("Anorchfygol", 1964), ''Głos pana'' ("Llais y Meistr", 1968), ac ''Opowieści o pilocie Pirxie'' ("Hanesion y Peilot Pirx", 1968); a ffuglen ddamhegol iasoer, gan gynnwys ''Dzienniki gwiazdowe'' ("Dyddlyfrau'r Sêr", 1957), ''Pamiętnik znaleziony w wannie'' ("Dyddiadur a Ganfuwyd yn y Baddon", 1961), a ''Cyberiada'' ("Seiberiad", 1965).
Bu farw Stanisław Lem yn Kraków o fethiant y galon yn 84 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3gan Bartoszewski, WładysławAwduron Eraill: “...Lem, Stanisław...”
Cyhoeddwyd 1983
Rhif Galw: Handbibliothek 3/13Llyfr -
4gan Bartoszewski, WładysławAwduron Eraill: “...Lem, Stanislaw...”
Cyhoeddwyd 1983
Rhif Galw: Handbibliothek 1/06Llyfr