Ulla Jelpke
| dateformat = dmy}}Awdures o'r Almaen yw Ulla Jelpke (ganwyd 9 Mehefin 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, gwleidydd ac awdur. Mae Jelpke yn aelod o Bundestag (neu Senedd) yr Almaen lle mae'n llefarydd materion domestig ar gyfer y blaid ''Die Linke'' ac mae'n cynrychioli'r blaid honno yn y pwyllgor materion mewnol a'r pwyllgor materion cyfreithiol.
Fe'i ganed yn Hamburg ar 9 Mehefin 1951. Fel triniwr gwallt hyfforddedig a gwerthwr llyfrau, cafodd Jelpke ddiploma ysgol uwchradd ac yn ddiweddarach ac astudiodd gymdeithaseg ac economeg. O 2002 tan 2005, hi oedd yn arwain y ddesg materion domestig yn y papur newydd ''Junge Welt'' yn Berlin. Ers 2003 mae hi'n gyd-olygydd y cylchgrawn ''Ossietzky''.
Roedd Jelpke yn aelod o'r ''Hamburgische Bürgerschaft'' (Senedd Hambwrg) ar gyfer y blaid, Rhestr Gwyrdd-Amgen, ddwywaith rhwng 1981 a 1989. Gan ddechrau o 1990, mae wedi bod yn aelod o'r Bundestags o'r 12fed - 14eg, 16eg a'r 17eg, yn y drefn honno.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, a bu'n aelod o ''Die Linke'' (Y Chwith), Plaid y Chwith.PDS, Y Gwyrddion a'r Gynghrair Gomiwnyddol. Darparwyd gan Wikipedia
-
1Erthygl
-
2
-
3
-
4