Antonio de Guevara

Llenor ac esgob Sbaenaidd oedd Antonio de Guevara (tua 14803 Ebrill 1545) a fu'n bregethwr llys yng nghyfnod y Brenin Carlos I.

Ganed yn Treceño, ar arfordir gorllewinol Cantabria, a chafodd ei fagu yn llys Fernando ac Isabel. Gwasanaethodd yn was bach i'r Don Juan, Tywysog Astwries, hyd at ei farwolaeth ym 1497. Ymunodd Guevara ag Urdd Sant Ffransis ym 1504 a chafodd ei benodi'n bregethwr y llys ym 1521 a'r croniclydd brenhinol ym 1526. Gwasanaethodd yn Esgob Guadix o 1528 i 1537, ac yn Esgob Mondoñedo, ar gyrion Mynyddoedd Cantabria, o 1537 hyd at ei farwolaeth.

Campwaith Guevara ydy'r gwaith didactig ''Reloj de príncipes o libro aureo del emperador Marco Aurelio'' (1529), esiampl o lyfr drych. Cafodd ei gyfieithu i sawl iaith arall a bu'n hynod o ddylanwadol ar draws Ewrop yn yr 16g. Byddai Guevara yn ffug-briodoli nifer o rannau'r gwaith i Marcus Aurelius, Ymerawdwr Rhufain yn yr 2g. Ymhlith ei weithiau eraill mae ''Epístolas familiares'' (1539–42), ''Menosprecio de corte y alabanza de aldea'' (1539), a ''La década de Césares'' (1539). Rhethregwr ac ewffiwydd oedd Guevara, a oedd yn ysgrifennu ar fân-bynciau er mwyn ymarfer ei ryddiaith ffraeth a chywrain. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Guevara, Antonio de', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Guevara, Antonio de
    Cyhoeddwyd 1942
    Rhif Galw: Boe7273
    Llyfr
  2. 2
    gan Guevara, Antonio de
    Cyhoeddwyd 1952
    Rhif Galw: Boe7272
    Llyfr
  3. 3
    gan Guevara, Antonio de
    Cyhoeddwyd 1950
    Rhif Galw: Stadt- und Landesbibliothek Potsdam
    Llyfr
  4. 4
    gan Guevara, Antonio de
    Cyhoeddwyd 1950
    Rhif Galw: Stadt- und Landesbibliothek Potsdam
    Llyfr