Thomas Carlyle
Hanesydd, traethodydd, a bywgraffydd o'r Alban oedd Thomas Carlyle (4 Rhagfyr 1795 – 5 Chwefror 1881). Efe oedd prif feirniad diwylliannol yr oes Fictoriaidd, a dylanwadodd ar nifer o feirniad iau y cyfnod, gan gynnwys Matthew Arnold a John Ruskin. Dadleuodd o blaid arweinyddiaeth dadol a chryfder yr arwr, gan feirniadu damcaniaeth ''laissez-faire'' a llywodraeth seneddol. Mae ganddo arddull hynod o nodweddiadol: "cyfuniad o ymadroddion beiblaidd, geiriau gwerin, ystumiadau Tiwtonaidd, a bathiadau ei hunan, yn nhrefn yr annisgwyl".Ganwyd yn Ecclefechan, Swydd Dumfries, i deulu mawr o Galfiniaid. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Annan a Phrifysgol Caeredin, ac yno ymddisgleiriodd ym maes mathemateg. Cychwynnodd ar ei yrfa yn diwtor, ysgolfeistr, a newyddiadurwr. Darllenodd lyfr Germaine de Staël ar yr Almaen, gan fagu ynddo ddiddordeb yn llenyddiaeth ac athroniaeth Almaenig. Ymhlith ei weithiau cynnar mae ''Life of Schiller'' (1823) a'i gyfieithiad o ''Wilhelm Meister'' (1824) gan Goethe.
Priododd Jane Baillie Welsh ym 1826. Cyhoeddodd ei hunangofiant ysbrydol, ''Sartor Resartus'', yng nghylchgrawn ''Fraser's'' ym 1833–34, cyn iddo symud i fyw yn Llundain. Ysgrifennodd hanes y Chwyldro Ffrengig (1837), traethawd ar Siartiaeth (1839), casgliad o'i ddarlithoedd dan y teitl ''On Heroes, Hero-Worship, and The Heroic in History'' (1841), golygiad o lythyrau ac areithiau Cromwell (1845), a bywgraffiad Ffredrig Fawr (1858–65).
Bu farw ei wraig ym 1866, ac ar ddiwedd ei fywyd cafodd Carlyle ei weld yn broffwyd hen ffasiwn. Claddwyd ym Mynwent Ecclefechan. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17Rhif Galw: Handbibliothek 3/01Llyfr