Immanuel Wallerstein

Cymdeithasegydd o'r Unol Daleithiau oedd Immanuel Maurice Wallerstein (28 Medi 193031 Awst 2019) sydd yn nodedig am arloesi damcaniaeth systemau byd.

Ganed ym Manhattan a chafodd ei fagu yn y Bronx, Dinas Efrog Newydd, gan deulu Iddewig. Meddyg a rabi oedd ei dad, Lazar, ac arlunydd oedd ei fam Sara, Günsberg gynt. Derbyniodd Immanuel ei radd baglor o Brifysgol Columbia yn 1951. Wedi iddo wasanaethu yn y fyddin o 1951 i 1953, dychwelodd i Columbia ac enillodd ei radd meistr yno yn 1954 am ei draethawd estynedig ar bwnc McCarthyaeth. Teithiodd i Affrica gyda chymrodoriaeth o Sefydliad Ford yn 1955, ac enillodd ei ddoethuriaeth o Columbia yn 1959.

Wedi iddo ymuno â chyfadran Prifysgol Columbia, teithiodd Wallerstein yn ôl i Affrica sawl tro i wneud gwaith ymchwil ar gyfer ei lyfrau ''Africa: The Politics of Independence'' (1961) ac ''Africa: The Politics of Unity'' (1967). Yn sgil protestiadau gan fyfyrwyr Columbia yn 1968, ysgrifennodd Wallerstein y llyfr ''University in Turmoil: The Politics of Change'' (1969). Yn 1974, cyhoeddodd y gyfrol gyntaf mewn cyfres ar bwnc systemau byd.

Yn 1971 symudodd Wallerstein i weithio ym Mhrifysgol McGill, Montréal, ac yn 1976 fe'i penodwyd yn athro arbennig cymdeithaseg yn Mhrifysgol Daleithiol Efrog Newydd yn Binghamton. Bu'n gymrawd ymchwil uwch ym Mhrifysgol Yale o 2000 hyd ei farwolaeth. Cyhoeddodd 500 o negeseuon blog yn rheolaidd ar ei wefan. Priododd â Beatrice Friedman yn 1964, a chawsant un ferch, Katharine. Bu farw yn ei gartref yn Branford, Connecticut, yn 88 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Wallerstein, Immanuel', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Wallerstein, Immanuel
    Cyhoeddwyd yn Mittelweg 36 (2000)
    Rhif Galw: Zsn --90b-- Obere Etage / Zeitschriftenleseraum --90c-- Mit
    Erthygl
  2. 2
    gan Wallerstein, Immanuel Maurice
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: Boe10039 --90b-- Stadt- und Landesbibliothek Potsdam --90c-- Präsenzbestand --90z-- Walter Boehlich-Bibliothek
    Llyfr