Jonathan Swift

Awdur o'r Iwerddon oedd Jonathan Swift (30 Tachwedd 166719 Hydref 1745), a aned yn Nulyn.

Er iddo gael ei eni yn Nulyn ac iddo rannu ei amser rhwng y ddinas honno a Llundain, roedd rhieni Swift yn Saeson o Swydd Efrog ac fe'i hawlir weithiau fel awdur gan y genedl honno.

Cafodd Swift ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Yn sgîl yr adwaith yn Iwerddon i Chwyldro 1688 aeth i Lundain lle daeth yn ysgrifennydd i Sir William Temple. Yn nghartref Temple cyfarfu Swift â "Stella" (Hester Johnson). Yno hefyd yr ysgrifennodd ei ddychan mwyaf gwreiddiol, ''A Tale of a Tub'' (1704).

Fe'i ordeiniwyd yn 1694 a rhannodd ei amser rhwng gofalu am ei ystad yn Iwerddon a mynychu siopa coffi a chylchoedd llenyddol Llundain. Yn 1713 cafodd ei apwyntio'n ddeon eglwys St Padrig, Dulyn. Yn 1726 cyhoeddodd ei lyfr enwocaf ''Gulliver's Travels'', dychan ar wleidyddiaeth a syniadaeth ei ddydd yn rhith mordaith ffantasïol i wledydd pell neu ddychmygol. Bu farw yn 1745. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'Swift, Jonathan', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Swift, Jonathan
    Cyhoeddwyd 1948
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/03
    Llyfr
  2. 2
  3. 3
  4. 4
    gan Swift, Jonathan
    Cyhoeddwyd 1965
    Rhif Galw: Boe8577
    Llyfr
  5. 5
    gan Swift, Jonathan
    Cyhoeddwyd 1950
    Rhif Galw: Boe8150
    Llyfr
  6. 6
    gan Swift, Jonathan
    Cyhoeddwyd 1927
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/02
    Llyfr