Jonathan Steinberg
Hanesydd Americanaidd oedd Jonathan Steinberg (8 Mawrth 1934 – 4 Mawrth 2021) sydd yn nodedig am ei fywgraffiad o Otto von Bismarck, ''Bismarck: A Life'' (2011).Ganed yn Efrog Newydd i deulu Iddewig. Rabi yn synagog Park Avenue, Manhattan, oedd ei dad Milton Steinberg. Mynychodd Jonathan ysgol flaengar Walden, a dan nawddogaeth y teulu Warburg cafodd ei anfon i Brifysgol Harvard. Derbyniodd ei radd mewn economeg ym 1955.
Aeth i Brifysgol Caergrawnt ym 1961 i gychwyn ar ei ddoethuriaeth dan oruchwyliaeth Harry Hinsley. Penodwyd Steinberg yn gymrawd ymchwil yng Ngholeg Crist ym 1963, ac yn gymrawd yng Neuadd y Drindod ac yn is-ddarlithydd yng Nghaergrawnt ym 1966. Cyhoeddodd ei draethawd doethurol ar ffurf y llyfr ''Yesterday's Deterrent: Tirpitz and the Birth of the German Battle Fleet'' (1965). Cafodd ei ddewis i diwtora Siarl, Tywysog Cymru ar bwnc hanes. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2Rhif Galw: ZsnErthygl
-
3