Georges Sorel

Athronydd sosialaidd o Ffrainc oedd Georges Eugène Sorel (2 Tachwedd 184730 Awst 1922) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at syndicaliaeth chwyldroadol ac am ei ddamcaniaeth o fythau a thrais yn y broses hanesyddol.

Ganed i deulu dosbarth-canol yn Cherbourg, ym Manche, Normandi, yn ystod cyfnod Brenhiniaeth y Gorffennaf yn Nheyrnas Ffrainc. Cafodd ei hyfforddi mewn peirianneg sifil, a gweithiodd yn y gwasanaeth sifil nes iddo ymddeol ym 1892 i ganolbwyntio ar ei astudiaethau a myfyrdod yn amser-llawn. Trodd at Farcsiaeth ym 1893 ac ysgrifennai draethodau dadansoddol ar bynciau cymdeithasol ac economaidd. Erbyn 1902, roedd yn chwyldroadwr ac yn lladd ar y pleidiau Sosialaidd a Radicalaidd am iddynt ddadlau dros ddemocratiaeth a chyfansoddiadaeth i greu cymdeithas sosialaidd yn hytrach na dulliau chwyldroadol. Cofleidiodd Sorel y mudiad syndicalaidd chwyldroadol a'i bwyslais ar syniadau anarchaidd a brwydr y dosbarthiadau.

Mae ei gyfrol enwocaf, ''Réflexions sur la violence'' (1908), yn gasgliad o'i erthyglau ar bwnc trais gwleidyddol a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn syndicalaidd ''Le Mouvement socialiste'' ym 1906 sydd yn datblygu ei gysyniadaeth o fythau, gan ddefnyddio esiampl y streic gyffredinol. Yn hytrach nac ystyried sosialaeth wyddonol yn drefn ffeithiol a gwrthrychol o drawsnewid y gymdeithas, mae Sorel yn amgyffred Marcsiaeth fel cyfres o fythau seciwlar sydd yn ddefnyddiol wrth ysgogi'r dosbarth gweithiol i ddilyn arweinwyr y chwyldro. Cafodd ddylanwad pwysig ar ideoleg ffasgaidd Benito Mussolini.

Tua 1909 cafodd Sorel ei ddadrithio gan y mudiad syndicalaidd, a lleisiodd ei gefnogaeth i frenhinwyr yr Action française. Yn sgil Chwyldro Rwsia ym 1917, ymgynghreiriodd Sorel â'r Bolsieficiaid. Bu farw yn Boulogne-sur-Seine yn 74 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'Sorel, Georges', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Sorel, Georges
    Cyhoeddwyd 1947
    Rhif Galw: Boe6629
    Llyfr
  2. 2
    gan Sorel, Georges
    Cyhoeddwyd 1928
    Rhif Galw: Boe6628
    Llyfr
  3. 3
    gan Sorel, Georges
    Cyhoeddwyd 1946
    Rhif Galw: Boe6627
    Llyfr
  4. 4
    gan Sorel, Georges
    Cyhoeddwyd 1974
    Rhif Galw: Nbc
    Llyfr
  5. 5
    gan Sorel, Georges
    Cyhoeddwyd 1969
    Rhif Galw: Nbc
    Llyfr
  6. 6
    Rhif Galw: Handbibliothek 4/01
    Inhaltsverzeichnis
    Llyfr