Georges Simenon
Awdur o Wlad Belg yn ysgrifennu yn Ffrangeg oedd Georges Joseph Christian Simenon (13 Chwefror 1903 - 4 Medi 1989). Ysgrifennodd rai gweithiau dan y ffugenwau Georges Sim, Christian Brulls, Gom Gut, Georges d'Isly, Jean du Perry, Jean Dorsage, Jacques Dorsonne, Luc Dorsan, Georges Martin, Georges a Gaston Vialis. Mae'n fwyaf adnanyddus fel awdur y nofelau ditectif gyda Maigret fel arwr.Ganed ef yn Liège. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf am Maigret, ''Pietr-le-Letton'' mewn 13 rhan yn y cylchgrawn ''Ric Rac'', cyn ei chyhoeddi fel llyfr yn 1931. Cyhoeddwyd yr olaf yn y gyfres, ''Maigret et monsieur Charles'' yn 1972. Cyhoeddodd 103 o nofelau a storïau byrion i gyd. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4