Ariel Sharon

Prif Weinidog Israel o Chwefror 2001 i Ebrill 2006 oedd Ariel "Arik" Sharon (Hebraeg: אריאל "אריק" שרון;‎ 26 Chwefror 1928 - 11 Ionawr 2014). Ef oedd unfed Prif Weinidog ar ddeg Israel.

Roedd Sharon yn Weinidog Amddiffyn Israel yn ystod Rhyfel Libanus 1982. Yn ôl Comisiwn Kahan, Sharon oedd yn gyfrifol am gyflafan ym mis Medi 1982 pan laddwyd sifiliaid Palesteinaidd gan filisiâu Libanaidd yng ngwersylloedd ffoaduriaid Sabra a Shatila.

Ar 4ydd Ionawr 2006 cafodd strôc difrifol a'i adawodd mewn cyflwr diymateb parhaol hyd at ei farwolaeth ar 11eg Ionawr 2014, yn 85 oed.

Yn 2009 penderfynodd dinas Ariel, treflan Israeli ar y Lan Orllewinol yn Llywodraethiaeth Salfit ail-ddehongli'r enw dref er anrhydedd i Ariel Sharon. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Sharon, Ariel', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Sharon, Ariel
    Cyhoeddwyd 1990
    Rhif Galw: Ldc
    Llyfr
  2. 2
    gan Sharon, Ariel, Schanoff, David
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: Handbibliothek 5/01
    Llyfr