Manuel Scorza
Nofelydd, bardd, ac ymgyrchydd o Beriw oedd Manuel Scorza (9 Medi 1928 – 27 Tachwedd 1983).Ganwyd yn Lima, prifddinas Periw. Yn 1949 ymunodd â'r ymgyrch yn erbyn unbennaeth y Cadfridog Manuel Odría. Cafodd holl gopïau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, ''Actas de la remota lejanía'' (1949), eu cymryd gan yr heddlu. Fe'i alltudiwyd am gyfnod a bu'n byw mewn sawl gwlad. Enillodd glod am ei gasgliad o gerddi ''Las imprecaciones'' (1955). Yn 1956 ymunodd â'r Movimiento Comunal a chefnogodd gwrthryfel y gwerinwyr yn y Cerro de Pasco.
Ysgrifennodd Scorza bum nofel yn ymwneud ag hanes Periw yn y cyfnod 1955–62, gyda phwyslais ar brofiadau'r brodorion: ''Redoble por Rancas'' (1970), ''Historia de Garabombom, el invisible'' (1972), ''El jinete insomne'' (1978), ''Cantar de Agapito Robles'' (1978), a ''La tumba del relámpago'' (1979). Ymsefydlodd ym Mharis ac addysgodd yn yr École Normale Supérieure. Bu farw mewn damwain awyren ym Madrid, Sbaen, yn 55 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4