Yitzhak Rabin

Gwleidydd, gwladweinydd a chadfridog Israelaidd oedd Yitzhak Rabin (; , ; 1 Mawrth 19224 Tachwedd 1995). Ef oedd pumed Prif Weinidog Israel, a gwasanaethodd am ddau dymor, 1974–77 a 1992 hyd at ei lofruddiad yn 1995.

Ganwyd Rabin yn Jerwsalem i fewnfudwyr Iddewig-Wcranaidd a'i fagu mewn cartref Seionaidd. Dysgodd am amaethyddiaeth yn yr ysgol gan ragori fel disgybl. Cafodd yrfa 27 mlynedd fel milwr. Pan yn ei arddegau, ymunodd â'r Palmach, llu cylchfilwyr yr Yishuv. Esgynodd o fewn i'r fyddin a dod yn bennaeth gweithrediadau yn Rhyfel Annibyniaeth Israel. Ymunodd â Llu Amddiffyn Israel (LlAI) ar ddiwedd 1948 a pharhau i esgyn fel swyddog addawol. Cynorthwyodd i lunio dull hyfforddi'r LlAI ar ddachrau'r 1950au, ac arwain Cyfarwyddiaeth Amddiffyn LlAI rhwng 1959 a 1963. Cafodd ei benodi'n Bennaeth Staff Cyffredinol yn 1964 a goruchwylio buddugoliaeth Israel yn  He was appointed Chief of the General Staff yn Rhyfel Chwe Diwrnod 1967.

Gwasanaethodd Rabin fel llysgennad Israel i'r Unol Daleithiau rhwng 1968 a 1973, yn ystod cyfnod o gryfhau cysylltiadau rhwng y ddwy wlad. Cafodd ei benodi'r Brif Weinidog Israel yn 1974, yn dilyn ymddiswyddiad Golda Meir. Yn ystod ei dymor cyntaf, arwyddodd Rabin Gytundeb Interim Sinai a gorchymyn cyrch Entebbe. Ymddiswyddodd yn 1977 yn dilyn sgandal ariannol. Rabin oedd gweinidog amddiffyn Israel am y rhan fwyaf o'r 1980au, gan gynnwys ar ddechrau'r Intifada Cyntaf.

Yn 1992, cafodd Rabin ei ail-ethol fel prif weinidog ar lwydan a oedd yn cofleidio'r proses heddwch rhwng Israel a Phalesteina. Arwyddodd nifer o gytundebau hanesyddol gyda'r arweinyddiaeth Palesteinaidd fel rhan o Gytundebau Oslo. Yn 1994, enillodd Rabin Wobr Heddwch Nobel ynghyd a'i wrthwynebydd gwleidyddol Shimon Peres a'r arweinydd Palestinaidd Yasser Arafat. Arwyddodd Rabin hefyd gytundeb heddwch gyda;r Iorddonen yn 1994. Yn Nhachwedd 1995, cafodd ei lofruddio gan eithafwr o'r enw Yigal Amir, a oedd yn gwrthwynebu telerau Cytundebau Oslo. Cafodd Amir ei arestio a'i gyhuddo a'i ddyfarnu'n euog o lofruddiaeth Rabin; cafodd ei ddedfrydu am oes. Rabin oedd y prif weinidog cyntaf i gael ei eni yn Israel, yr unig brif weinidog i gael ei lofruddio a'r ail i farw tra'n dal swydd yn y llywodraeth (yn dilyn Levi Eshkol). Mae Rabin wedi dod yn symbol o'r proses heddwch rhwng Israel a Palesteina. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'Rabin, Yitzhak', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/03
    Llyfr
  3. 3
    gan Rabin, Yitzhak
    Cyhoeddwyd 1996
    Rhif Galw: Ldc
    Llyfr
  4. 4
    gan Rabin, Yitzhak
    Cyhoeddwyd 1979
    Rhif Galw: Handbibliothek 5/01
    Llyfr
  5. 5
    gan Yaron, Kalman, Dahlhaus, Horst
    Cyhoeddwyd yn Tribüne (2004)
    Awduron Eraill: “...Rabin, Yitzhak...”
    Rhif Galw: Zsn
    Erthygl
  6. 6
    Cyhoeddwyd 1995
    Awduron Eraill: “...Rabin, Yitzhak...”
    Rhif Galw: Jel
    Llyfr