Edward Lear
bawd|Edward Lear, tua 1870Arlunydd, awdur, a bardd o Loegr oedd Edward Lear (12 Mai 1812 – 29 Ionawr 1888) sy'n enwog am ei limrigau a'i gerddi digri. Roedd yr 21ain plentyn i Ann a Jeremiah Lear a chafodd ei fagu gan ei chwaer Ann a oedd yn 21 mlynedd yn hun nag ef. Dywedir ei bod wedi gwirioni arno cymaint nes iddi barhau i edrych ar ei ôl nes yr oedd tua 70 oed, pan farwodd.
Roedd yn dioddef o fronceitis, asma a ffitiau epileptig ers oedd yn chwech oed. Dioddefai, hefyd, o salwch meddwl, a alwai ef yn "the Morbids."
Mewn llenyddiaeth Gymraeg, ceir cerddi nonsens wedi'u seilio ar yr Hen Benillion mewn cyfrol o'r enw ''Hen Ffrindiau,'' gan Edward Tegla Davies (Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn 1927). Mae ar gael ar Wicidestun. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2


