Rudolf Hilferding
Gwleidydd Awstriaidd-Almaenig oedd Rudolf Hilferding (10 Awst 1877 – Chwefror 1941) a oedd yn un o ladmeryddion Awstro-Farcsiaeth. Gwasanaethodd yn swydd gweinidog ariannol yr Almaen ym 1923 ac ym 1928.Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, i deulu Iddewig rhyddfrydol. Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Fienna, ac yno cyfarfu â nifer o sosialwyr a Marcswyr, gan gynnwys Otto Bauer, Karl Kautsky, ac August Bebel. Ym 1906 cafodd Hilferding waith mewn ysgol hyfforddi dan nawdd Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen (SPD) ym Merlin.
Hilferding oedd awdur y gyfrol gyntaf – ''Böhm-Bawerks Marx-Kritik'' (1904) – yng nghyfres ''Marx Studien'' (1904–22) yr Awstro-Farcswyr. Ei brif waith yw ''Das Finanzkapital'' (1910), sydd yn trafod rôl y bancwyr a'r arianwyr mewn imperialaeth economaidd a rhyfel. Hilferding oedd golygydd gwleidyddol ''Vorwärts'', prif gylchgrawn yr SPD, o 1907 i 1915. Cafodd ei alw i'r fyddin Awstriaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwasanaethodd yn feddyg ar ffrynt yr Alpau. Derbyniodd ddinasyddiaeth Almaenig ym 1920. Am gyfnod bu'n olygydd ''Die Freiheit'', cylchgrawn y Democratiaid Cymdeithasol Annibynnol.
Gwasanaethodd yn ddirprwy yn y Reichstag o 1924 nes i Adolf Hitler esgyn i rym ym 1933. Ffoes Hilferding o'r Almaen Natsïaidd, ac ym 1934 sefydlodd gynllun ar gyfer sosialwyr Almaenig alltud. Cafodd ei arestio gan awdurdodau Vichy ym 1940 a'i drosglwyddo i'r Gestapo. Bu farw yn y ddalfa ym Mharis yn 63 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3