Emma Goldman
Anarchydd ac ymgyrchydd gwleidyddol oedd Emma Goldman (27 Mehefin 1869 – 14 Mai 1940).Ganed hi yn Cawnas, Lithwania, a oedd yr adeg honno yn rhan o Ymerodraeth Rwsia, i deulu Iddewig. Aeth i'r ysgol yn Königsberg, ond gwrthododd ei thad adael iddi gael addysg bellach. Symudodd gyda'i chwaer, Helena i Rochester, Efrog Newydd, pan oedd yn un-ar-bymtheg oed. Daeth yn anarchydd, a theithiodd o amgylch yn darlithio, gan dynnu tyrfaoedd o filoedd. Carcharwyd hi nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Yn 1917 carcharwyd hi a'i phartner i ddwy flynedd am wrthwynebu gorfodaeth filwrol ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf, ac wedi eu rhyddhau, alltudiwyd hwy i Rwsia.
Yn Rwsia, cefnogodd y Chwyldro Rwsaidd i ddechrau, ond yn ddiweddarach daeth i'w wrthwynebu. Bu'n byw yn Lloegr, Canada a Ffrainc, a theithiodd i Sbaen gan gymeryd rhan yn y Rhyfel Cartref.
Mi areithiodd am bythefnos yn ardal maes glo De Cymru yn 1925 gan siarad i gynulleidfaoedd o Abertawe hyd at y Rondda. Yn yr un flwyddyn, priododd glöwr ac anarchydd o Sir Gaerfyrddin o'r enw James Colton er mwyn sicrhau ei theitheb Brydeinig. Roedd y newyddion ar dudalen flaen ''The New York Times''. Er iddynt barhau â'u bywydau ar wahân anfonwyd llythyron cyson rhyngddynt, a dychwelodd Goldman sawl tro i Gymru i areithio a darlithio.
Bu farw yn Toronto ar 14 Mai 1940. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4