Bob Dylan
Canwr gwerin, bardd a chyfansoddwr o'r Unol Daleithiau (UDA) yw Bob Dylan (ganwyd 24 Mai 1941). Ei enw iawn yw Robert Allen Zimmerman. Ganwyd ef yn Duluth, Minnesota. Iddewon oedd ei rhieni. Daw llawer o'r gwaith mwyaf nodedig o'r 1960au pan oedd yn gronicler anfoddog i ddechrau o newidiadau cymdeithasol. Daeth nifer o'i ganeuon, megis "Blowin' in the Wind" a "The Times They Are a-Changin'," yn anthemau i Fudiad Hawliau Sifil America a'r ymgyrch yn erbyn Rhyfel Fietnam.Mae dyfaliad yr enwyd Bob Dylan ei hunan ar ôl Dylan Thomas, ond mae Bob yn gwadu hwn.
Enillodd Dylan Wobr Lenyddol Nobel yn 2016. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2