Noam Chomsky
Athronydd ac ieithydd o'r Unol Daleithiau yw Avram Noam Chomsky (ganwyd 7 Rhagfyr 1928 yn Philadelphia, UDA). Roedd ei dad, William Chomsky, yn ysgolhaig Hebraeg. Treuliodd Noam gyfnod mewn cibwts. Bu farw ei wraig Carol yn 2008 yn dilyn 60 mlynedd o fywyd priodasol.Athro Emeritws Ieithyddiaeth MIT ydyw. Cydnabyddir iddo greu damcaniaeth gramadeg cynhyrchiol, un o uchafbwyntiau ieithyddiaeth haniaethol yn yr 20g. Yn ogystal, mae ei waith wedi cael dylanwad ar seicoleg, ac ar athroniaeth iaith ac athroniaeth meddwl.
Gan gychwyn gyda'i wrthwynebiad i Ryfel Fiet Nam yn y 1960au, fe ddaeth i'r amlwg yn y cyfryngau am ei ymgyrchu gwleidyddol. Mae'n ddeallusyn allweddol i'r asgell chwith yng ngwleidyddiaeth Unol Daleithiau America. Mae'n feirniadol iawn o bolisïau tramor yr Unol Daleithiau. Disgrifia'i hun yn sosialydd rhyddewyllysiol ac yn gydymdeimlwr ag anarcho-syndicaliaeth. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3gan Rokach, LiviaAwduron Eraill: “...Chomsky, Noam...”
Cyhoeddwyd 1982
Rhif Galw: Handbibliothek 3/06Llyfr -
4
-
5Cyhoeddwyd 1975Awduron Eraill: “...Chomsky, Noam...”
Rhif Galw: Handbibliothek 3/06Llyfr