David Ben-Gurion

Prif weinidog cyntaf Israel oedd David Ben-Gurion (Hebraeg:דָּוִד בֶּן-גּוּרִיּוֹן, ganed fel David Grün (16 Hydref 18861 Rhagfyr 1973).

Ganed Ben-Gurion yn Płońsk, Gwlad Pwyl yn awr, ond yr adeg honno yn rhan o Ymerodraeth Rwsia. Cyfreithiwr oedd ei dad, Avigdor Grün; bu farw ei fam, Scheindel, pan oedd yn 11 oed. Roedd y teulu yn gefnogwyr brwd i Seioniaeth. Ymfudodd Ben-Gurion i Balesteina yn 1906, a bu'n gweithio mewn amaethyddiaeth yno ar y dechrau. Yn 1912 symudodd i Istanbul i astudio'r gyfraith, a newidiodd ei gyfenw i Ben-Gurion.

Ar y pryd roedd Palesteina yn rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd, ac yn 1915 taflwyd ef o'r wlad oherwydd ei weithgareddau gwleidyddol, Ymsefydlodd yn Efrog Newydd, lle priododd Paula Munweis yn 1917. Yn dilyn Datganiad Balfour yn Nhachwedd 1917, ymunodd â Lleng Iddewig y fyddin Brydeinig. Dychwelodd i Balesteina, oedd yn awr dan reolaeth fiwlrol Brydeinig, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth yn amlwg yn y mudiad cenedlaethol a'r Yishuv (y gymuned Iddewig ac egin wladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina cyn annibyniaeth), gan ddod yn ysgrifennydd y mudiad llafur Iddewig Histadrut, ac o 1930 ymlaen yn arweinydd Mapai, y blaid lafur Seionaidd.

Cyhoeddodd Ben Gurion sefydliad gwladwriaeth Israel ar 14 Mai 1948, a daeth yn Brif Weinidog y wlad newydd. Bu ganddo ran amlwg yn y Nakba (y carthu ethnig a brofodd y Palestiniaid er mwyn sicrhau mwyafrif Iddewig yn y wladwriaeth newydd) a'r rhyfel rhwng Israel a'r gwledydd Arabaidd cyfagos a ddilynodd. Heblaw am gyfnod o ddwy flynedd rhwng 1954 a 1955, bu yn y swydd hyd 1963. Ymddiswyddodd yn 1963, a dilynwyd ef gan Levi Eshkol. Ffraeodd ag Eshkol y flwyddyn wedyn, a ffurfiodd blaid newydd, Rafi, a enillodd ddeg sedd yn y Knesset. Ymddeolodd o wleidyddiaeth yn 1970. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 29 ar gyfer chwilio 'Ben-Gurion, David', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Ben-Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1934
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/11
    Llyfr
  2. 2
    gan Ben-Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1938
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/03
    Llyfr
  3. 3
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/03
    Erthygl
  4. 4
    gan Ben-Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1934
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/03
    Llyfr
  5. 5
    gan Ben-Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1934
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/03
    Llyfr
  6. 6
    gan Ben-Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1933
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/03
    Llyfr
  7. 7
    gan Ben-Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1970
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/03
    Llyfr
  8. 8
    gan Ben-Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1938
    Rhif Galw: Jc
    Llyfr
  9. 9
    gan Ben-Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1998
    Rhif Galw: Jf
    Llyfr
  10. 10
    gan Ben Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1969
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/06
    Llyfr
  11. 11
    gan Ben Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1968
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/06
    Llyfr
  12. 12
    gan Ben Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1961
    Rhif Galw: Handbibliothek 3/06
    Llyfr
  13. 13
    Erthygl
  14. 14
    Erthygl
  15. 15
    Erthygl
  16. 16
    Erthygl
  17. 17
    Erthygl
  18. 18
    gan Ben-Gurion, David
    Cyhoeddwyd yn Das Jüdische Echo (1994)
    Rhif Galw: Zsn
    Erthygl
  19. 19
    gan Ben-Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1971
    Rhif Galw: Handbibliothek 5/01
    Llyfr
  20. 20
    gan Ben-Gurion, David
    Cyhoeddwyd 1970
    Rhif Galw: Handbibliothek 5/01
    Llyfr