Maurice Barrès

Awdur a gwleidydd o Ffrainc oedd Maurice Barrès (19 Awst 18625 Rhagfyr 1923).

Ganed ef yn Charmes yn ''département'' Vosges. Addysgwyd ef yn Nancy, mewn ''lycée'' ac yna'r brifysgol. Symudodd i ddinas Paris yn 1882, lle sefydlodd gylchgrawn ''Les Taches d'Encre'' yn 1884. Daeth yn adnabyddus pan gyhoeddwyd tair cyfrol o nofelau hunagofiannol ''Le Culte du moi'' rhwng 1888 a 1891. Etholwyd ef yn aelod o'r Académie française yn 1906.

Roedd hefyd yn amlwg yn wleidyddol, gan roi pwyslais ar genedlaetholdeb Ffrengig. Gwrthwynebai'r duedd i or-ganoli (a gynrychiolid gan ddinas Paris) gan ddadlau fod y genedl wedi ei ffurfio o deuluoedd, pentrefi a rhanbarthau, a bod gwarchod hunaniaeth y rhain yn bwysig. Etholwyd ef i'r senedd dros ran o Baris yn 1906. Bu'n cydweithio gyda Charles Maurras, sefydlydd yr Action française, ond yn wahanol iddynt hwy, nid oedd Barrès o blaid brenhiniaeth. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Barrès, Maurice', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Curtius, Ernst Robert
    Cyhoeddwyd 1921
    Awduron Eraill: “...Barrès, Maurice...”
    Rhif Galw: Boe1097
    Llyfr
  2. 2
    gan Curtius, Ernst Robert
    Cyhoeddwyd 1921
    Awduron Eraill: “...Barrès, Maurice...”
    Rhif Galw: Boe1096
    Llyfr