Glückel von Hameln

Dyddiadurwraig a gwraig fusnes Iddewig o'r Almaen oedd Glückel von Hameln (164519 Medi 1724) sydd yn nodedig am ei atgofion sydd yn ffynhonnell werthfawr am hanes, diwylliant, a bywydau'r Iddewon yng Nghanolbarth Ewrop yn niwedd yr 17g a dechrau'r 18g. Ysgrifennodd ei dyddiadur yn yr iaith Iddew-Almaeneg, gyda rhannau yn Hebraeg, mewn saith cyfrol yn y cyfnodau 1691–99 a 1715–19. Cofnod teuluol oedd bwriad y gwaith, a gyhoeddwyd o'r diwedd yn 1896 dan y teitl ''Zikhroynes Glikl Hamel''.

Ganed yn Hamburg yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Alltudiwyd yr Iddewon o Hamburg yn 1649 a symudodd Glückel a'i theulu i fwrdeistref Altona ar gyrion y ddinas. Wedi iddi dderbyn addysg Iddewig draddodiadol yn Altona, dychwelodd gyda'i theulu i Hamburg yn 1657. Priododd, yn 14 oed, â Hayim von Hameln, a chawsant 12 o blant. Wedi marwolaeth Hayim yn 1689, rheolai ei fusnes a'i faterion ariannol gan y weddw Glückel. Yn 1700 priododd â Cerf Lévy, banciwr ym Metz, Lorraine, yn Nheyrnas Ffrainc. Nid oedd Lévy yn gymaint o lwyddiant ym myd busnes â Glückel, ac yn fuan collodd ei ffortiwn ei hun yn ogystal ag holl arian ei wraig. Bu farw Lévy yn 1712, a bu Glückel yn byw gydag un o'i merched ym Metz nes iddi farw yno tua 78 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Glückel von Hameln', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Glückel von Hameln
    Cyhoeddwyd 1994
    Rhif Galw: Ldc
    Llyfr
  2. 2
    gan Glückel, von Hameln
    Cyhoeddwyd 1913
    Rhif Galw: Boe14815
    Llyfr
  3. 3
    gan Glückel, von Hameln
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: Boe14814
    Llyfr
  4. 4
    gan Glückel, von Hameln
    Cyhoeddwyd 1910
    Rhif Galw: Boe14813
    Llyfr